Datganiad hygyrchedd

Mae’r wefan hon yn cael ei redeg gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS ac NVDA).

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w ddefnyddio os oes gennych anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Darperir y rhan fwyaf o'n harweiniad a'n cyhoeddiadau ar ffurf PDF yn unig ar hyn o bryd. Nid yw'r PDFs hyn yn gwbl hygyrch
  • Nid yw llawer o ddogfennau PDF a Word hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • Nid yw holl destun ein gwefan wedi’i ysgrifennu mewn iaith glir, er enghraifft i Safon Saesneg Plaen y Comisiwn Iaith Glir, felly nid yw mor syml i’w ddeall ag y gallai fod.

Rydym yn gweithio i wneud ein cynnwys yn gwbl hygyrch. Yn y cyfamser, cysylltwch â ni os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch.

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith.

Adborth a gwybodaeth cysylltu

Rydym o hyd yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n fodlon ar ein ymateb, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Statws cydymffurfio

Mae IOPC wedi ymrwymo i wneud eu gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys sydd ddim yn hygyrch

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

  1. Mae’r ffurflen gwyno yn rhy hir ac nid yw’n cynnwys cam adolygu. Mae hyn yn methu â bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.4.6 (AA) a 3.3.4 (AA).
  2. Gall amlygrwydd dolenni lawrlwytho ar dudalennau cyhoeddiadau gamarwain defnyddwyr oddi wrth y tudalennau cyd-destunol sy’n egluro beth yw’r cyhoeddiad. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 3.2.4 (AA).
  3. Ar y dudalen galwad cyhoeddiad Hawdd ei Ddeall, nid yw’r ddolen ‘lawrlwytho’r cyhoeddiad’ yn cynnwys y math na maint y ffeil o fewn testun y ddolen; mae’r wybodaeth am y ffeil yn ymddangos ar wahân ar ôl y ddolen yn nhrefn darllen y dudalen. Mae hyn yn methu â bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 (A), 2.4.4 (A) a 3.2.4 (AA).
  4. Mae gan ddolenni lawrlwytho destun dolen ailadroddus ac annefnyddiol. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.4 (A).
  5. Ar y dudalen hafan, mae’r carwsél newyddion yn gofyn am ryngweithio llorweddol ac mae’n bosib bod hyn yn cuddio cynnwys. Mae hyn yn methu â bodloni meini prawf WCAG 1.3.2 (A), 2.4.3 (A), 2.4.4 (A) a 2.4.7 (AA).
  6. Yn y Llyfrgell Cyhoeddiadau, mae’n ymddangos bod steilio hofran a ffocws y bysellfwrdd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dolenni teitlau dogfennau a dolenni eiconau, ond wrth ddefnyddio darllenydd sgrin mae’n ymddangos nad yw’r steilio ffocws yn digwydd. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.7 (AA).
  7. Wrth hofran dros y dewislenni cwymplen yn y bar llywio, nid oes dull o gael gwared â’r cynnwys ychwanegol sy’n cael ei sbarduno heb symud y pwyntydd neu ffocws y bysellfwrdd. Mae hyn yn cynnwys pan fydd y llygoden yn hofran dros “Amdanom ni” a “Ein gwaith”. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.13 Cynnwys ar Hofran neu Ffocws.
  8. Mae teitlau ar goll yng ngosodiadau rhai dogfennau PDF ar y wefan. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.2 (A).

    Mae llawer o ddogfennau mewn fformatau gwahanol i HTML, er enghraifft PDF. Nid ydynt yn hygyrch mewn sawl ffordd, gan gynnwys diffyg testun amgen a diffyg strwythur dogfen.

    Nid yw pob testun na chyhoeddiad ar ein gwefan yn bodloni safonau iaith glir yn llawn, ac felly nid ydynt mor hawdd eu deall ag y gallent fod. Bwriedir llawer o’r tudalennau a’r cyhoeddiadau hyn ar gyfer cynulleidfa broffesiynol, felly maent yn cynnwys termau a byrfoddau na fydd aelodau o’r cyhoedd o bosibl yn eu deall.

Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro PDFau neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro cynnwys trydydd parti nad yw wedi’i ariannu, ei ddatblygu na’i reoli gan y corff sector cyhoeddus. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys adroddiadau neu ddogfennau a gyhoeddir gan ddeiliaid trwydded.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio i gywiro cynnwys sydd ddim yn bodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 13 Ebrill 2026. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 23 Tachwedd 2026.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mawrth 2026 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA gan CIVIC UK.