Focus
Mae pob rhifyn yn edrych ar bwnc penodol, ac yn rhoi cyngor ac enghreifftiau i adrannau safonau plismona, cyrff plismona lleol ac eraill yng ngwasanaeth yr heddlu sy'n rheoli cwynion.
Mae Focus yn cyd-redeg ac yn cefnogi ein Canllawiau Statudol ar gyfer yr heddlu ar ymdrin â chwynion.
Mae Focus wedi ei ysgrifennu ar gyfer cyrff plismona lleol a swyddfeydd heddlu'r Swyddfa Gartref yn Lloegr a Chymru. Mae hefyd yn gymwys i'r asiantaethau hynny a lluoedd nad ydynt yn perthyn i'r Swyddfa Gartref sydd wedi ymrwymo i Gytundebau Adran 26 neu Adran 26BA gyda'r IOPC, o dan unrhyw ddarpariaethau penodol sydd wedi eu cynnwys yn y cytundebau hynny.
Sylwch, mae rhai o'r astudiaethau achos yn Focus yn hollol ddychmygol er mwyn helpu i ddangos egwyddor. Mae rhai wedi'u dychmygol-nu ar sail elfennau o ychydig o achosion a rhai yn achosion go iawn sydd wedi'u hanonimeiddio. Oherwydd ei natur a'r gynulleidfa darged, mae Focus yn cynnwys iaith dechnegol a chyfeiriadau at gymhwysiad deddfwriaeth gymhleth.