Focus

Mae Focus yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ar ymdrin â chwynion, materion ymddygiad, ac achosion marwolaeth neu anafiadau difrifol. Mae'n cefnogi ymdrin â chwynion yr heddlu ac yn gwella safonau.
Headline of Focus newsletter

Mae pob rhifyn yn edrych ar bwnc penodol, ac yn rhoi cyngor ac enghreifftiau i adrannau safonau plismona, cyrff plismona lleol ac eraill yng ngwasanaeth yr heddlu sy'n rheoli cwynion.

Mae Focus yn cyd-redeg ac yn cefnogi ein Canllawiau Statudol ar gyfer yr heddlu ar ymdrin â chwynion.

Mae Focus wedi ei ysgrifennu ar gyfer cyrff plismona lleol a swyddfeydd heddlu'r Swyddfa Gartref yn Lloegr a Chymru. Mae hefyd yn gymwys i'r asiantaethau hynny a lluoedd nad ydynt yn perthyn i'r Swyddfa Gartref sydd wedi ymrwymo i Gytundebau Adran 26 neu Adran 26BA gyda'r IOPC, o dan unrhyw ddarpariaethau penodol sydd wedi eu cynnwys yn y cytundebau hynny.

Sylwch, mae rhai o'r astudiaethau achos yn Focus yn hollol ddychmygol er mwyn helpu i ddangos egwyddor. Mae rhai wedi'u dychmygol-nu ar sail elfennau o ychydig o achosion a rhai yn achosion go iawn sydd wedi'u hanonimeiddio. Oherwydd ei natur a'r gynulleidfa darged, mae Focus yn cynnwys iaith dechnegol a chyfeiriadau at gymhwysiad deddfwriaeth gymhleth.

Goruchwyliaeth cylchlythyr

Rydym yn dal heddluoedd i gyfrif am eu perfformiad mewn ymdrin â chwynion ac yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid plismona allanol i adnabod materion, gweithredu gwelliant ac ymarfer effeithiol, rhanadwy. Goruchwyliaeth cylchlythyr